Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Archwiliwch ein tref

Archwiliwch ein tref

Ewch am dro yn ôl trwy hanes i oes Fictoria ar hyd hen Heol Telford trwy Gorwen (nawr yr A5). Nid yw llawer o'r adeiladau wedi newid fawr ers hynny ac maent yn dal i ddangos yr addurniadau yr oedd y Fictoriaid yn eu caru, megis y rheiliau haearn hyfryd a theils addurniadol.
Mae'r Llwybr yn mynd â chi o Amgueddfa Corwen (unwaith yn gapel), heibio Tloty Corwen ac ymlaen hyd hen Orsaf Reilffordd Corwen ar ben arall y dref. Yr Eglwys yw'r adeilad hynaf a byddai anheddiad wedi datblygu'n gyntaf o'i chwmpas.
Datblygodd y dref oherwydd ffordd Telford i Gaergybi ac fel Cyffordd Rheilffyrdd, gan fynd â phobl a nwyddau i'r Rhyl, Abermaw a Llangollen ac oddi yno i bob rhan o Brydain. Ni wnaeth y dref fyth ddod dros doriadau Beeching yn 1965 ac mae wedi mynd o fod yn dref farchnad brysur i le marwaidd Fictoraidd.
Mae'r dref yn gorwedd yng nghysgod mynyddoedd y Berwyn ac yng ngorlifdir Afon Dyfrdwy. Dringwch i fyny Pen-y-Pigyn neu Gaer Drewyn a gweld y dref gyfan a'r wlad o gwmpas oddi tannoch. Dychmygwch Fyddin Gymreig Owain Gwynedd ar Gaer Drewyn yn gwawdio Byddin Lloegr dan arweiniad Harri II ar y Berwyn yn 1165, a gweld byddin rhithol Owain Glyndŵr yn barod i ddechrau Gwrthryfel Cymru yn erbyn Harri IV yn 1400.
Mae hon yn dref wedi'i thrwytho mewn hanes ac rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r Llwybr ac yn mynd i ffwrdd yn gwybod ychydig mwy am pam ein bod mor angerddol drosti.