Yn 2019 bu can mlynedd ers i’r Eisteddfod Heddwch gael ei chynnal yng Nghorwen yn 1919. Roedd yn achlysur arbennig iawn gan mai hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i gael ei chynnal ar ôl y Rhyfel Mawr ac roedd yn arbennig o bwysig i dref Corwen gael bod yn gartref i’r digwyddiad arbennig hwn. I nodi’r achlysur, ariannodd y Loteri Genedlaethol y prosiect Ein Tirlun Darluniadwy gwaith artistiaid lleol i gefnogi'r gymuned mewn digwyddiad coffaol.
Ar ôl yr orymdaith, cymerodd aelodau o'r gymuned a gymerodd ran yn y prosiect pypedau Derwyddon i’r Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst ym mis Awst i atgoffa pobl o ganmlwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Heddwch 1919 ac i annog pobl i ddod i ymweld â Chorwen.





