Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Deffro Cawr Corwen

Deffro Cawr Corwen

Deffrodd y Cawr Drewyn ar 23 Mawrth 2019 a cherddodd i Gorwen, gan adael llwybr o olion traed anferth. Yna syrthiodd i gysgu eto yn Nol Corwenna, ond yn ystod ei daith gollyngodd nifer o wrthrychau sy’n datgelu cliwiau am Drewyn a chewri eraill yn Nyffryn Dyfrdwy.

Fe ddaeth i Gorwen i chwilio am ei gariad y Forwyn Laeth, ond mae’n ymddangos na ddaeth o hyd iddi - pwy bynnag yw hi fe fydd yn rhaid iddi aros hyd nes y bydd yn deffro eto, ond mae'n ymddangos eu bod yn cynllunio antur gyda'i gilydd.

Cyn hyn roedd wedi adeiladu'r fryngaer, Caer Drewyn, uwchben Corwen fel anrheg i'w gariad fel rhywle iddi gadw ei gwartheg. Mae beth yn union oedd ei fwriadau yn ystod y daith hon yn ddirgelwch, ond mae cliwiau i'w canfod. Mae’n rhy fawr i’w weld os ydych yn sefyll yn y cae lle mae nawr yn cysgu, ond os y dilynwch drywydd ei wrthrychau coll i’r fan lle mae’r olygfa ar frig Pen-y-Pigyn fe allwch weld Drewyn a’r olion traed a wnaeth ar ei daith.

Mae’r gwrthrych a ollyngodd Drewyn yn rhoi llawer o gliwiau am Drewyn a'i gymdogion ond ni ŵyr neb i sicrwydd beth yw ystyr pob un - gallwch rannu eich lluniau a'ch syniadau ynglŷn â beth ddywed y gwrthrychau wrthym yn
@WakingCorwensGiant ar Facebook neu Instagram.