Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Coleg y Groes

Mae Coleg y Groes yn esiampl wych o elusendy o'r 18fed ganrif, sydd wedi cadw llawer o'i gymeriad cynnar.

Agorwyd Coleg y Groes, a elwid gynt yn Y Coleg, ym mis Mai 1750. Efallai bod gan y safle darddiad cynharach fel sefydliad colegaidd eglwysig ar gyfer hyfforddi clerigwyr, er nad yw hyn wedi'i ddogfennu. Ar ben gorllewinol yr adeilad mae'r cerrig sylfaen yn fawr iawn, gan awgrymu y gallai fod yn hen iawn.

Arhoswch ac edrychwch ar y plac dros y fynedfa o'r fynwent. Mae hyn yn dweud wrthym ei fod wedi'i adeiladu i ddarparu cartref i weddwon clerigwyr a allai fyw yma yn ddi-rent. Rhoddwyd £20 y flwyddyn iddynt hefyd i fyw arno, a oedd tua'r un peth ag y byddai llafurwr wedi ei fael ar y pryd, felly roedd o'n llawer o arian.

Roedd chwech o weddwon yn byw yma, pob un mewn bwthyn gyda dwy ystafell, grisiau serth iawn a thân agored, a ddefnyddiwyd i goginio mewn crochan ar gadwyn yn dilyn y traddodiad lleol, yn ogystal â chadw pob bwthyn bach yn gynnes! Roedd ganddynt dŷ pobi ar y cyd, a lle i fragu cwrw gan nad oedd dŵr yn ddiogel i'w yfed yn y dyddiau hynny! Mae'r ddwy ardal yma bellach yn ffurfio adain ddwyreiniol yr adeilad. Mae'n debyg mai'r adeiladau tu allan i'r gorllewin oedd y tai bach!

Y tu ôl i'r tir mae llwybr troed sy'n olion y ffordd cyn-Telford, felly byddai teithwyr gwreiddiol wedi edrych i lawr ar yr adeiladau, yr eglwys a gweddill tref fach Corwen.