

Carregau Cneifio 
Croes yr Eglwys 
Carreg fedd Gyrrwr Beiriant
Mae'r fynwent yn 'gylchol' - nid oes corneli - gan ei nodi fel un hen iawn. Roedd pobl o'r farn nad oedd y diafol yn gallu cuddio yno heb gorneli!
Mae'n debyg mai'r Cristnogion Celtaidd cynnar ddewisodd y safle gan mai'r arfer oedd defnyddio safleoedd cyn-Gristnogol.
Yn agos at borth y fynwent, sef prif fynedfa'r fynwent, mae rhai cerrig penlinio. Ymddengys bod y rhain ar gyfer pobl sydd â thair pen-glin! Efallai eu bod o gysegr sant cyn-ddiwygiadol a dynnwyd yn ddarnau, 'ynghudd' o fewn golwg i'w cadw'n ddiogel?
Trowch i'r dde pan ddaw i borth yr eglwys. Ar ochr dde-orllewinol yr eglwys mae croes y fynwent. Credir bod hon yn dyddio o'r 9fed ganrif, felly mae'n debyg ei bod yn hen pan oedd yn cael ei defnyddio fel lle i bregethu, gan ofyn i bobl fynd ar groesgad i ail-feddiannu'r 'Tir Sanctaidd'. Edrychwch yn ofalus a gallwch weld cleddyf wedi'i arysgrifio arni.
Gerllaw mae bedd diddorol a roddwyd yma pan oedd Corwen yn dref reilffordd. Claddwyd Owen Owen, gyrrwr injan, o dan goeden ac mae ganddo garreg fedd sy'n dweud wrthym am 'siyntio, chwibanu, and signalau'! Allwch chi ddod o hyd iddi!