Mae hen Orsaf Heddlu a'r Llys a elwir bellach yn COPS er ei fod wedi'i newid dros y blynyddoedd yn dal i sefyll yn urddasol ar Heol Llundain, Corwen.
Ym mis Gorffennaf 1870, bu i Lt. Cyrnol Charles Tottenham, Cadeirydd Rheilffordd Llangollen i Gorwen ac hefyd Ystys Heddwch Meirionydd gwblhau prynu darn o dir yng nghanol tref Corwen, ar gyfer adeiladu gorsaf heddlu newydd ... ' mae'r un presennol yn hollol anaddas at y diben hwnnw, fel yr ardystiwyd gan arolygydd carchardai y llywodraeth a oedd wedi bod yn sâl oherwydd y drewdod a'i gorchfygodd pan fu'n ei arolygu ... '!



