Cynnydd ar Orsaf newydd Corwen
Mae'r ffotograff yn dangos cyflwr Gorsaf Corwen newydd ym mis Rhagfyr 2017. Disgwylir iddo fod yn weithredol yn 2019 tua 55 mlynedd ar ôl i'r orsaf wreiddiol gau. Daw cyflenwad dŵr yr orsaf newydd, ar gyfer locomotifau, o dwll turio 30m (100 troedfedd) o ddyfnder a'i bwmpio i mewn i dwr sy'n dal 2,000 litr o ddŵr. Rhennir y dŵr o'r twll turio gydag Ardd Gymunedol Corwen. Gellir cymryd hyd at 20,000 litr y dydd o'r twll turio.

