Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bywyd Gwyllt Chwarel Y Mwynglawdd

Glaswelltiroedd calchfaen a sialc yw rhai o'n glaswelltiroedd mwyaf amrywiol ar gyfer blodau gwyllt a phryfed peillio.

Gwrando

Mae Graham Berrry, Swyddog Gwarchodfeydd NWWT, yn esbonio pam mae Chwarel Y Mwynglawdd yn arbennig

Mae gwyddlwyn cyffredin, teim gwyllt, cor-rosyn cyffredin, y ganrhi goch, ysgall Siarl a phys-y-ceirw yn ffynonellau neithdar hanfodol i lawer o rywogaethau o gacwn, gwyfynod a gloÿnnod byw, yn enwedig y glesyn cyffredin, gwibiwr bach a gweirloÿn bach y waun.
Gellir gweld llawer rhywogaeth o degeirianau ledled y glaswelltir calchfaen gan gynnwys y tegeirian brych cyffredin, tegeirian gwenynenog, y tegeirian pêr, tegeirian bera, tegeirian y broga a thegeirian-y-gors gogleddol tra bod pigau blodau porffor crwynllys yr hydref yn ymddangos yn yr hydref.