Ganwyd Parc Gwledig Y Mwynglawdd allan o gynlluniau Adfer Tir ar ddiwedd yr 20fed ganrif pan ail-gladdwyd y tomenni rwbel a oedd yn weddill o'r gwaith mwynau blaenorol ac a oedd yn cynnwys gwastraff plwm, sinc a metel trwm gwenwynig dan orchudd diogel.
Yna hauwyd yr ardaloedd dan orchudd â chymysgedd glaswelltir a phlannwyd clystyrau bach o goed brodorol.
Mae'r parc oddeutu 22 hectar o faint gyda'r rhan fwyaf ohono'n laswelltir garw sydd wedi'i bori'n achlysurol.
Mae rhwydwaith o lwybrau yn caniatáu mynediad trwy'r ardaloedd hyn. Gadawyd rhanbarthau o arwyddocâd archeolegol ar agor ac mae un wedi cael ei droi’n amgueddfa / canolfan ymwelwyr gyda pheiriannau a ailadeiladwyd wedi’u gosod i efelychu’r pwll yn ei fywyd gwaith.



