Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Rhostir Rhiwabon

Mae rhostir Rhiwabon yn ardal o rostir mynyddig i'r gorllewin o Wrecsam.

Ar gyrion y gogledd mae mynyddoedd Y Mwynglawdd ac Esclusham, ar yr ymyl ddeheuol mae clogwyni calchfaen Creigiau Eglwyseg yn edrych dros Afon Dyfrdwy a Dyffryn Llangollen. Ar yr ochr orllewinol mae'r rhostiroedd yn cyrraedd eu huchder mwyaf o 565m yng Nghyrn-y-Brain gyda Choedwig Llandegla, planhigfa gonwydd fawr, sy'n gorchuddio'r ochr ogledd-orllewinol. Mae Rhostir Rhiwabon yn gorwedd yn rhannol ym Mwrdeistref Sir Wrecsam ac yn rhannol o fewn Sir Ddinbych. Mae'n rhan ogleddol ACA Mynyddoedd Berwyn a De Clwyd, sef yr ardal fwyaf o fignen a rhostir sych Ewropeaidd yng Nghymru sy'n rhychwantu cyfanswm o 27000ha.

Dynodir y cadwyn o fryniau a elwir yn Fynydd Llantysilio, ynghyd â Rhostir Rhiwbon, sgarp Eglwyseg, ogofâu Y Mwynglawdd ac ardaloedd o laswelltir i'r gogledd a'r gorllewin o'r Mwynglawdd fel SDdGA Rhiwabon, Mynyddoedd Llantysilio a'r Mwynglawdd sydd o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Prif bwrpas yr AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol sy'n cynnwys nid yn unig y dirwedd ond hefyd fflora, ffawna a nodweddion daearegol. Mae'r ardal wedi'i nodi fel safle Adolygiad Cadwraeth Ddaearegol (GCR) am ei nodweddion daearegol pwysig.