Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Afon Clywedog

Afon Clywedog oedd enaid y dyffryn, gan ddarparu dŵr ar gyfer ffermio, pŵer ar gyfer yr olwynion dŵr mewn amryw felinau ac ar gyfer gyrru peiriannau diwydiannol trwm.

Yn ystod y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif roedd yr afon yn pweru olwynion dŵr enfawr a oedd yn gweithio megin enfawr i chwythu aer i'r ffwrneisi chwyth yng Ngwaith Haearn y Bers a gyrru'r peiriannau weindio, malu a phwmpio ym mhyllau plwm Y Mwynglawdd. Hefyd, roedd Afon Clywedog wedi pweru olwynion dŵr 17 melin ar ei hyd - melinau pannu i baratoi brethyn, melinau blawd ar gyfer malu gwenith / haidd a melinau papur cain.

Tyfodd y boblogaeth leol yn ddramatig wrth i'r Chwyldro Diwydiannol ddenu gweithwyr i'r mwyngloddiau glo a phlwm, chwareli calchfaen enfawr, gwaith haearn a mwyndoddi plwm, oedd yn brysur ddatblygu. Fe greodd hyn alw mawr am fwyd yr oedd y gorlifdiroedd ffrwythlon Clywedog yn ei ddarparu. Tyfodd y porfeydd cyfoethog rawnfwydydd ar gyfer ei melinau blawd newydd a bwydo da byw a oedd yn darparu porc, cig eidion, llaeth, menyn a chaws. Yn fuan, cliriwyd darnau ychwanegol o goetir ar gyfer tyfu mwy o gnydau. Ond roedd dyfodiad pŵer stêm ar ddiwedd y 19eg a'r 20fed ganrif yn golygu nad oedd angen lleoli diwydiannau yn agos at yr afon mwyach. Yn sgil y dechnoleg newydd hon a mewnforion rhatach daeth diwydiannau Clywedog i ben.

Heddiw mae Cwm Clywedog wedi dychwelyd i fyd natur ac mae'n lle ar gyfer bywyd gwyllt ac ymlacio gydag Afon Clywedog bellach yn cael ei gwerthfawrogi am ei harddwch a'i thawelwch. Er hyn, digwyddodd pethau yma a newidiodd y byd, efallai ei fod mewn gwirionedd yn haeddu'r teitl; Dyffryn Silicon y 1770au.