Mae Llwybr Cwm Clywedog yn rhedeg o Chwarel Y Mwynglawdd i Felin y Brenin.
Darganfyddwch orffennol diwydiannol hynod ddiddorol y cwm tawel hwn a chadwch lygad am fywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Mae'r llwybr 6 milltir / 10km wedi'i farcio'n dda ac yn hawdd ei ddilyn gyda pharcio ar gael ym Mhyllau Plwm Y Mwynglawdd a Melin Nant.
Lluniwyd y llwybr digidol hwn gan y nifer fawr o sefydliadau sy'n ymwneud â rheoli a hyrwyddo Cwm Clywedog, dan arweiniad Groundwork Gogledd Cymru.








