Mae Canolfan Melin y Brenin yn anelu i adfer Melin y Brenin.
Er gwaethaf diddordeb gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, mae'r adeilad wedi aros yn hollol wag ers 2012. Mae Canolfan Melin y Brenin yn sefydliad cymunedol dielw sy'n gobeithio prydlesu'r adeilad gan y cyngor. Y nod yw adfer y felin fel ased cymunedol hunangynhaliol sy'n darparu ar gyfer pob diddordeb ac oedran ynghyd â chroesawu ymwelwyr o'r tu allan i'r gymuned i fwynhau hanes a threftadaeth Melin y Brenin a Wrecsam.

