Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn gofalu am fywyd gwyllt, yn gweithio i adfer natur ac yn dod â phobl yn agosach at natur.
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn rheoli dros 750ha o dir gan gynnwys rhai o'r gwarchodfeydd natur gorau ledled Gogledd Cymru. Mae'r safleoedd sydd o dan ein gofal yn gartref i ystod eang o gynefinoedd a bywyd gwyllt ac yn cynnwys coetiroedd hynafol, rhostiroedd yr ucheldir, gweudiroedd, glaswelltiroedd sy'n llawn rhywogaethau, morlynnoedd arfordirol a thwyni, a gwlyptiroedd.
Mae'r tirweddau hyn yn gofyn am ystod o dechnegau i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli a'u gwella ar gyfer bywyd gwyllt, yn ogystal â bod yn hygyrch i'r cyhoedd. Gyda chymorth byddin o wirfoddolwyr, mae staff gwarchodfa natur yr Ymddiriedolaeth yn treulio'u hamser yn gofalu am ein safleoedd.


