Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Capel Bethel

Adeiladwyd Capel Bethel ym 1823 a'i ymestyn yn y 1840au

Cyn hyn - o tua 1800 roedd Presbyteriaid Cymru yn cynnal gwasanaethau yn Rhos Mari (Rose Marie bellach), tŷ ar Lôn Carreg Heilin.

Erbyn 1869 roedd William Shipley-Conwy o Blas Bodrhyddan wedi rhoi rhywfaint o dir cyfagos ac ehangwyd y capel eto. Roedd y gynulleidfa mor falch fel bod dros 300 ohonyn nhw wedi cerdded i'r plas ddydd Gwener 5 Gorffennaf 1867 i ddiolch i Mr Shipley-Conwy a chanodd y plant iddo ar y lawnt. Fe'u gwahoddodd yn ôl i de mawreddog a rhoi £5 iddynt (dros £500 yn arian heddiw).

Caeodd Capel Bethel yn 2002 a symudodd y gynulleidfa i Gapel Diserth yn y Stryd Fawr, y maen nhw'n ei rannu gyda'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig.

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth