Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ffenestr Jesse

Mae Ffenestr Jesse yn dangos achres Crist.

Disgrifiwyd y ffenestr liw uwchben yr allor fel yr enghraifft orau o ffenestr Jesse ganoloesol yng Ngogledd Cymru.
Mae mewn dwy ran yn y bôn. Mae'r rhan uchaf yn gynrychiolaeth o'r deuddeg Apostol a chredir gan rai ei bod yn hŷn na'r rhan isaf - sef ffenestr Jesse.
Dywed rhai awdurdodau fod y rhan hŷn yn dyddio o 1430 a bod yr ail ran wedi deillio o gymynrodd ym 1530.
Yn ôl y chwedl leol, cludwyd y ffenestr o Abaty Dinas Basing ger Treffynnon ar adeg diddymu'r mynachlogydd ond barn mwy gwybodus yw bod y ffenestr wedi'i chynllunio ar gyfer ei safle presennol.