Gyferbyn â'r Llew Coch mae'r adeilad carreg llwyd hwn, sydd bellach yn Neuadd yr Eglwys. Er ei bod yn ymddangos nad oes tystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi hyn nid oes fawr o amheuaeth mai hon oedd yr ysgol gyntaf yn Niserth. Yn 1863 disodlwyd y strwythur hwn gan yr ysgol ar ben Allt y Rhaeadr - ychydig rownd y gornel, yn y Stryd Fawr (tŷ preifat bellach). Yna defnyddiwyd yr adeilad hwn i amrywiol bwrpas fel siop crydd, garej, fel storfa wair a busnes crefftau, cyn dod yn Neuadd yr Eglwys.
Gyferbyn â'r Neuadd, yr ochr arall i fynedfa'r maes parcio, mae adeilad rhestredig Gradd 2 - blwch ffôn coch.

Erthygl papur newydd o'r Herald Gymreig ym mis Gorffennaf 1951




