Yn wreiddiol, adeilad carreg unllawr oedd hwn a oedd yn ateb sawl pwrpas ac a oedd ar un adeg yn rhan o'r stablau ar gyfer Gwesty'r Llew Coch.
Fe’i prynwyd yn y 1920au gan landlord y Llew Coch, Mr Harry Parker, i’w fab Walter ei redeg fel siop fach yn gwerthu lluniaeth a hufen iâ.
Byddai Mrs Maggie Owen yn eistedd y tu allan i'r siop, wedi'i gwisgo mewn gwisg Gymreig, yn gwerthu cardiau post a chofroddion. Byddai plant lleol yn casglu darnau o ffelspar o Foel Hiraddug i'w gwerthu i dwristiaid, neu efallai'n cynnig sypiau bach o flodau i'w gwerthu, weithiau'n dod o erddi lleol. Dywedwyd hefyd y byddai un fenyw fentrus yn cynnig gwydraid o Ddŵr y Rhaeadr am 1 geiniog y gwydraid.
Mae'r adeilad wedi'i ehangu sawl gwaith dros y blynyddoedd ac mae ar agor fel caffi a siop.




