Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Melin Llwyn

Mae arysgrif dros y fynedfa, sydd bellach wedi erydu, yn darllen “Grove Mill, E. Lloyd ysg, Codwyd gan EW Edwards 1815”.
Parhaodd y felin hon i weithio tan 1912 ac fe’i hailagorwyd am dair neu bedair blynedd ym 1920. Cafodd Bwthyn Melin Llwyn gerllaw yr enw oherwydd ei fod ar un adeg yn eiddo i felinydd o Melin Llwyn. Y tu ôl i'r bwthyn - preifat a ddim yn weladwy - mae adfeilion melin llawer hŷn, melin bannu, neu Pandy.