Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pentref Cwm

Mae Cwm yn un o blwyfi hynafol Sir y Fflint. Roedd yn cynnwys dwy drefgordd Uwchllan ac Isllan. Arhosodd ffiniau'r plwyfi yn ddinewid pan grëwyd plwyfi newydd yn ystod oes Fictoria.

Mae'r eglwys, sydd wedi'i chysegru i Saint Mael a Sulien, yn dyddio o'r 14eg ganrif, neu'n gynharach, ond fe'i hailadeiladwyd tua 1500. Cafwyd adferiadau ym 1881 a 1901. Mae'r llawr ar dair lefel oherwydd bod yr eglwys wedi'i hadeiladu ar ochr bryn. Mae wedi'i rhestru'n Radd II *.

Mae Tafarn y Llew Glas yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif ac efallai ei bod wedi'i hadeiladu'n wreiddiol i letya mynachod yr eglwys. Dywed un chwedl fod y waliau o amgylch y cwtsh yn cynnwys beddrodau cyn-fynachod. Mae rhai yn credu bod twnnel tanddaearol yn arwain at y fynwent leol.

Honnir bod y Dafarn yn cael ei phoeni gan ysbryd John Henry, a lofruddiwyd ym 1646 pan oedd yr adeilad yn ffermdy, a chan ddynes oedrannus wedi ei gwisgo mewn glas. Mwy o fanylion ar wefan Y Llew Glas - cliciwch ar y ddolen isod.

Mae'r Llew Glas ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul ac ar ddydd Llun Gŵyl y Banc

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr Eglwys

Tapiwch yma am y Llew Glas