Mae Maes Hiraddug yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru sy'n berchen ar y cae. Mae'n cynnwys dros 2 erw o laswelltir heb ei wella nad yw erioed wedi'i aredig na'i drin â gwrtaith.
Cofnodwyd dros 140 o wahanol rywogaethau o blanhigion yn y glaswelltir a'r coetir cyfagos. Mae'n cael ei reoli fel dôl wair, gyda'r llystyfiant yn cael ei dorri ym mis Gorffennaf, ei adael i sychu a bwrw hadau, cyn cael ei fyrnu a'i symud. Mae da byw yn pori'r cae o ddiwedd yr haf i gadw'r glaswelltir mewn cyflwr da.


