Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tŷ Injan Clive

Ar un adeg roedd Talargoch yn ardal fwyngloddio brysur.

Erbyn 1874 roedd 15 injan stêm a 5 injan asyn ar y safle. Roedd yr injans stêm yn cael eu bwydo gan 19 boeler ac roedd dwy olwyn ddŵr hefyd; 20 troedfedd (6.1m) a 40 troedfedd (12.2m) mewn diamedr.

Adeiladwyd Tŷ Injan Clive ym 1860 ac ym 1862 gosodwyd injan trawst stêm 100 modfedd (254cm) (diamedr silindr), i bwmpio dŵr o siafft gweithfeydd mwynglawdd Clive.

Cyflenwyd dŵr ar gyfer boeleri'r injan newydd trwy draphont ddŵr bren a oedd yn rhedeg yn ddwyreiniol am oddeutu 200m i rhod ddŵr (dyfrffos) a oedd yn cludo dŵr o Afon Ffyddion. Daethai glo o lofa'r Parlwr Du - roedd cludo’r glo yn llawer haws pan agorodd y rheilffordd ym 1869.

Adferwyd yr adeilad yn 2012 a gosodwyd paneli gwybodaeth yno.

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth