Mae Diserth yn lle hynafol a gafodd ei grybwyll yn llyfr Domesday yn 1086.
Mae'r enw o bosibl (mae rhai yn dweud mae'n debyg) wedi esblygu o'r Dissard gwreiddiol, sy'n golygu “Cell Meudwy”. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys sawl pentrefan gan gynnwys Llewerllyd, Rhyd a Threcastell.
Dechreuodd y pentref yn yr hyn y cyfeirir ato bellach fel Diserth Isaf - yr ardal o amgylch yr eglwys a'r rhaeadr. Dechreuodd y pentref uchaf ymddangos yn ôl pob tebyg rywbryd yn y 18fed ganrif, pan oedd yn cael ei adnabod fel Ochr y Foel, ond am nifer o flynyddoedd roedd Diserth Isaf yn dal i fod yn brif ran y pentref.
Mae llawer o'r pentref uchaf ar y llethr ac wrth droed Moel Hiraddug - a elwir hefyd yn Y Foel neu Fynydd Diserth - bryn calchfaen sydd o fewn Ardal o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol. Mae llawer o ben gogleddol y mynydd wedi'i gloddio ymaith ac mae olion bryngaer hynafol, cyn-Rufeinig yno.
O amgylch y pentref mae tystiolaeth o'i orffennol diwydiannol, gan gynnwys y chwarel, odynau calch a'r hen Reilffordd - sydd bellach yn rhodfa a llwybr beicio i Brestatyn.
Mae sawl man i barcio yn y pentref.
Y maes parcio ar Ffordd Trelawnyd: 53.302077, -3.408289
Yn y Stryd Fawr: 53.300381, -3.413900
Y maes parcio yn Thomas Avenue: 53.299330, -3.413978
Maes parcio'r rhaeadr: 53.3022521, -3.4172934.





