Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Neuadd y Pentref, Hen Ysgol

Neuadd y Pentref, Hen Ysgol

Roedd yr ysgol gyntaf yn y tŷ a elwir bellach yn Graig yr Ysgol.

Yn ddiweddarach, sefydlwyd ysgol eglwys, a elwir bellach yn Hen Ysgol. Addysgwyd plant teuluoedd Anghydffurfiol yn festri Capel Rehoboth. Ym 1908 adeiladwyd ysgol newydd ar gyfer holl blant y pentref gyda'r gobaith y byddai hyn yn dod â gwrthdaro crefyddol rhwng aelodau'r eglwys a'r capel i ben. Caeodd yr ysgol newydd ym 1967 a hi bellach yw Neuadd y Pentref.