Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Capeli

Capel Bethel, y Capel Wesleaidd sy'n sefyll ar Ffordd Llanasa ym mhen gogleddol y Stryd Fawr. Arferai pregethwyr Wesleaidd deithio i'r plwyf i siarad mewn gwasanaethau awyr agored o 1800. Roedd yr ymateb lleol yn wael ar y dechrau ond yn raddol cynyddodd y gefnogaeth.

Cyfarfu’r Methodistiaid Calfinaidd gyntaf mewn tai preifat neu aethant i’r capel, yn Nhrelogan, yna ym 1829 adeiladwyd y capel hwn ond cafodd ei adnewyddu ym 1890.

Saif y capel hwn yn Stryd y Capel. Neuadd farchnad, a godwyd gan John Wynne, oedd yr adeilad cynt ond tua 1701 penderfynodd roi'r adeilad i'r Anghydffurfwyr fel addoldy. Rhaid ei fod wedi anghytuno’n ddifrifol ag awdurdodau’r eglwys oherwydd gofynnodd hefyd iddo gael ei gladdu o dan y capel newydd er bod beddrod y teulu ym mynwent yr eglwys. Hwn wedyn oedd capel cyntaf yr Anghydffurfwyr yng Nghymru. Ar un adeg roedd o dan oruchwyliaeth fugeiliol Mathew Henry, esboniwr Beiblaidd a oedd wedyn yn byw yng Nghaer ac yn aml yn teithio’r ffordd oddi yno i gynnal gwasanaethau yn Ebenezer. Amrywiodd y gefnogaeth i'r capel yn fawr dros y blynyddoedd. Erbyn 1790 yn ôl un adroddiad dim ond un aelod llawn oedd oherwydd bod eglwys y plwyf wedi perswadio’r bobl i fynd i’r eglwys gydag addewidion o arian gan elusennau a chwrw!