Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Saint

Bu eglwys yma ers 1291 ond mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1724

Nid yw Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Saint ond pum deg pump troedfedd o hyd a phedair troedfedd ar bymtheg o led. Mae iddi siâp petryal syml gyda'r porth bach a'r festri wedi'u hychwanegu at y De a'r Gogledd yn y drefn honno.
Cyn y bymthegfed ganrif ni fyddai unrhyw seddi wedi bod yn yr eglwys, byddai'r gynulleidfa wedi sefyll ar lawr daear wedi'i orchuddio â brwyn er efallai bod cerrig wedi'u gosod yn agos at y wal er mwyn i'r hen a'r methedig orffwys arnynt. Yn ystod canol y bymthegfed ganrif dechreuodd seddi ymddangos. Fe wnaeth y boneddigion lleol brynu, codi a thalu rhent i'r eglwys am seddau i'w teuluoedd eistedd arnyn nhw. Ar ôl yr ailadeiladu ym 1724 bu cyfres o addasiadau ac atgyweiriadau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1852 rhoddodd Edward Bates o Gastell Gyrn organ newydd i'r eglwys ar yr amod bod gwasanaeth yn Saesneg bob dydd Sul. Ym 1863 roedd angen atgyweiriadau mawr i'r adeilad a chodwyd oriel ym mhen gorllewinol yr eglwys dim ond i'w symud gyda'r pulpud a'r seddau, a oedd yn dyddio o 1679 pan ailgynlluniwyd y tu mewn yn llwyr ym 1885.
Teilsiwyd llawr y cysegr a'r gangell, gosodwyd cerrig beddi hynafol ar lawr corff yr eglwys a rhoi ffenestr liw y Dwyrain, rhodd gan Mrs Nicholson yn ei lle. Rhoddwyd bwrdd yr allor gan Mr M A Ralli ym 1899. Cafodd y paentiad olew "I AM" ei beintio a'i roi gan Leonard Hughes er cof am y rhai fu farw yn ryfel 1914-18.