Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Chwedlau'r Gop

Chwedlau'r Gop

Mae'r Gop, sy'n cynnwys 50,000 tunnell o gerrig, wedi'i amgylchynu gan chwedlau dirgel.

Mae straeon am ysbrydion, bedd Buddug a bedd cadfridog Rhufeinig o'r enw Paulinus. Awgrymwyd bod y frwydr olaf rhwng y Celtiaid a'r Rhufeiniaid wedi digwydd o dan y Gop ar yr hyn a elwid yn Llwyfandir Sir y Fflint. Mae un hanesydd, Morien Morgan yn ei Hanes Cymru yn credu bod Buddug wedi'i chladdu mewn darn o dir ym Mhenrallt, Chwitffordd.
I'r de o'r Gop mae ffynnon goll Sant Mihangel, a gysylltiedir ag Eglwys Sant Mihangel ym mhentref Trelawnyd, ac i'r gogledd mae Ffynnon Wen, ffynnon gysegredig a anrhydeddwyd gan bererinion ar un adeg.