Mae esgyrn dynol ac anifeiliaid wedi'u darganfod yn Ogof Y Gop.
Mae'r ogof fwy tua 44 troedfedd o hyd, 8 - 12 troedfedd o led a 5 - 7 troedfedd o uchder gyda dau brif ddarn yn arwain i mewn iddi. Fe’i hagorwyd gyntaf gan Mr John H Morris ym 1908 ac mae wedi cael ei harchwilio sawl gwaith ers hynny.
Cafwyd hyd i lwyth o sgerbydau dynol o wahanol oedrannau yn perthyn i fwy na 14 o bobl mewn un ogof, y cyrff mewn osgo cwrcwd gyda'r breichiau a'r coesau wedi'u tynnu at ei gilydd a'u plygu.
Ymhlith yr olion anifeiliaid a ddarganfuwyd mae ceffyl, dafad neu afr, ych, carw coch, bual, mochyn, blaidd, llwynog, arth, arth frown mae'n debyg a lyncs, yr unig enghraifft a geir yng Nghymru.

