Mae'r ardal bert hon yn berffaith ar gyfer cerdded gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad.
Mae Gwaenysgor yn falch iawn o'r ffaith mai hwn oedd y plwyf cyntaf yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Afon Dyfrdwy i gael ei holl lwybrau troed ar agor.
Mae llwybr Clawdd Offa yn mynd yn agos at Gwaenysgor ar y llwybr 177 milltir o Brestatyn i Gas-gwent tra bod Taith Clwyd a Ffordd Pererinion Gogledd Cymru yn mynd trwy'r ardal.
Mae gan 'Walking with History', llyfryn a gynhyrchwyd i ddathlu'r mileniwm, saith taith gerdded yn y pentrefi a'r cyffiniau yn ogystal â Llwybr y Mileniwm sydd wedi'i farcio'n dda. Mae'r llyfryn ar gael o Lyfrgell Prestatyn neu Gyngor Cymunedol Trelawnyd a Gwaenysgor.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Clawdd Offa



