
I hela yr awn ni!
Byddai gan lawer o gestyll feysydd ceirw cysylltiedig. Roedd y parciau yn cyflawni nifer o anghenion, roeddent yn darparu cyfle adloniadol i'r Arglwydd a'i dylwyth, roeddent yn rhoi golwg bendigedig o'r castell ac, wrth gwrs, roeddent yn darparu cig ar gyfer bwrdd yr Arglwydd. Yn Holt, roedd yr hyn a elwid yn 'Parc Bach' yn union i'r de o'r castell, ac er mai dim ond tua thraean o'r ardal wreiddiol sydd bellach yn fan agored, gallwch ddychmygu ardal goediog wedi'i stocio â cheirw yn aros am fwynhad yr Arglwydd.