Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Academi Holt

Academi Holt

Sefydlwyd Academi Holt gan y Parchedig Ebenezer Powell. Fe ysgrifennwyd amdano: "Nid oedd yn ddyn prudd, roedd ganddo synnwyr digrifwch cyfoethog, eto yn ei bregethau ni fu erioed lygedyn o hiwmor." Ym 1855 agorodd ef a'i wraig Mary Ann ysgol yn eu tŷ eu hunain yn Holt ac roedd ganddynt chwech o ddisgyblion preswyl. Chwe blynedd yn ddiweddarach roedd ganddynt dros 80 o fyfyrwyr a daethai llawer ohonynt o Ogledd Cymru i ddysgu Saesneg. Ym 1865 adeiladwyd y capel newydd a throi'r hen gapel yn ysgol.
Y pynciau oedd: Darllen, Rhifyddeg, Gwersi Beiblaidd, Daearyddiaeth, Hanes, Gramadeg, Lladin, Ysgrifennu, Sillafu, Mathemateg, Rhifyddeg Pen, Arlunio, Gwyddoniaeth Naturiol, Groeg, Ffrangeg ac Almaeneg.

Roedd H G Wells yn isathro yn yr Academi ym 1888. Roedd yn credu bod "swm anhygoel o bêl-droed i lenwi'r bylchau rhwng dysgu." Ysgrifennodd hefyd: "Roedd Holt, a ddylai fod ag ymhoniadau i'r darluniadol, yn 1887 yn ddi-sylw oherwydd y gwaith nwy. O'r wythnosau cyntaf, fe wyddwn y byddai'n rhaid i mi ddianc o'r tir gwastad anghyfannedd llwyd hwn, yr ysgol aflan a'r arferion Presbyteraidd." "Ymddengys bod Holt yn gamddarlun gwael o'r gair Academi, lle'r oedd bechgyn yn cysgu tri mewn gwely, y gwersi cael eu cynnal mor anwadal â chawodydd Ebrill, a chamymddwyn difrifol yn fygythiad parhaus fel bod y pennaeth yn ffafrio cosb gorfforol yn breifat ond yn ei ffieiddio'n gyhoeddus ... "
Fodd bynnag, cyfaddefodd yn ddiweddarach: "Tra yn yr ysgol yn Holt y cefais yr ysfa gyntaf i ysgrifennu." Yma yr ysgrifenodd "Lady Frankland's Companion"ac mae'n debyg "Chronic Argonauts". Roedd y disgyblion yn gweithio o 7 tan 8 yn y bore, yn cael brecwast ac yna'n gweithio o 9.30 tan 12. Ar ôl cinio roeddent yn gweithio tan 4.30, yn cael te ac yna dychwelyd i wneud dwy awr o waith paratoi gyda'r nos.

Caeodd yr Academi ym 1902.

Canlyniadau Arholiadau Canol Haf 1875
Canlyniadau Arholiadau Canol Haf 1875