Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Croesi'r Ddyfrdwy

Rydw i wedi sefyll yma ers i mi gael fy nghwblhau yn 1345 gan yr ail John de Warenne, Arglwydd y Mers, Castell Holt. Gallaf adrodd sawl stori. Cefais fy nefnyddio ers canrifoedd i groesi afon Dyfrdwy yn un o'i ychydig mannau cul, y ceunant tywodfaen rhwng Holt a Farndon. Roedd llanw yn yr afon hyd at Holt ac roedd modd ei chroesi dros ryd ar lanw isel, ond unwaith i'r gored yng Nghaer gael ei hadeiladu ym 1093, yna roedd angen fferi nes i mi gael f'adeiladu.

Rydw i wedi bod yn bwnc i lawer o dirlunwyr dros y blynyddoedd, ac roedd rhai ohonynt yn amlwg iawn: H Gastineau, Ingleby, Sandby, John Warren Smith 1790 (a ddangosir), a Richard Wilson. Yn wir, mae peintiad olew mawr yr olaf yn hongian yn Llundain, yn yr Oriel Genedlaethol.