Roedd Dôl Coroni Crefft y Bont unwaith yn rhan o ddôl llawer mwy yn ymestyn o'r Bont i Gastell Holt.
Mae Jonny Hulson yn esbonio pam mae dolydd llifogydd yn bwysig.
Roedd Dôl Coroni Crefft y Bont unwaith yn ardd farchnad yn gysylltiedig i'r Tolldy yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Tollbyrth Barnhill a Wrecsam. Mae bellach yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru fel rhan o Brosiect Tirlun Byw Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam. Mae'r glaswelltir yn cael ei adfer i gymuned dolydd gorlifdir naturiol trwy broses o lyfnu, hadu, rolio, torri gwair a phori. Yn gyntaf, mae hadau yn cael eu cynaeafu o weddillion dôl gorlifdir tua 4km i ffwrdd yn Old Pulford Brook. Ar ôl llyfnu, mae'r hadau'n cael eu lledaenu ar draws y ddôl ac yna caiff ei rolio i sicrhau cysylltiad hadau-pridd da. Trwy dorri gwair yn yr haf a defaid yn pori yn y gaeaf, bydd y safle yn dychwelyd i laswelltir dôl gorlifdir naturiol, gyda phlanhigion fel Bwrned Mawr, Cynffon y Llygoden, Ffenigl yr Hwch, Crydwellt a Llygad-llo Mawr yn arwydd o hynny. Os gwelwch unrhyw un o'r planhigion hyn yn tyfu, tynnwch lun a'i anfon atom.
Mae'r gwrychoedd o gwmpas y ddôl hefyd yn cael ei adfer gydag amrywiaeth brodorol megis ysgawen, masarnen fach, collen, draenen wen a'r ddraenen ddu. Gellir gweld o hyd weddillion hen amrywogaeth o eirin mair a hopys yn y gwrychoedd.




