Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ymddiriedolaeth Tref Holt

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Tref Holt trwy orchymyn gan y Comisiwn Elusennau o dan Ddeddf Corfforaethau Bwrdeistrefol 1883, ar 3 Ebrill 1891 ac roedd o fudd i bobl bwrdeistref hynafol Holt.

O 1606 hyd 1886, roedd Holt yn Fwrdeistref gyda Maer a Chynghorwyr. Diddymwyd y Fwrdeistref yn 1886 gan Ddeddf Seneddol a roddwyd ei eiddo yn nwylo'r Comisiynwyr Elusennau. Yn 1891 sefydlodd y Comisiynwyr Ymddiriedolaeth Tref Holt i ofalu am yr eiddo a'i weinyddu er budd cymuned Holt.

Mae'r eiddo yn cynnwys tir yn Coed Comin, Maes yr Eglwys, Maes Smithfield, Gardd Neuadd y Dref a'r Groes.

Mae Ymddiriedolaeth y Dref yn gweinyddu eiddo'r hen fwrdeistref ac mae incwm o'r ymddiriedolaeth wedi bod, ac yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o bwrpasau yn y gymuned.

Am fwy o wybodaeth cliciwch y ddolen hon.