Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru

Mae Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn ŵyl o gerddoriaeth glasurol a gynhelir yn flynyddol ym mis Medi yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Fe'i sefydlwyd ym 1972 gan y cyfansoddwr Cymreig enwog William Mathias. Mae'r ŵyl yn 45 mlwydd oed eleni ac wedi bod yn achlysur pwysig ar galendr diwylliannol Gogledd Cymru. Mae'r ŵyl yn anelu at feithrin gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a mwynhâd o gerddoriaeth glasurol ymysg trawsdoriad eang o gymunedau Gogledd Cymru, gan roi'r cyfle i bobl o bob cefndir brofi perfformiadau byw o gerddoriaeth glasurol gan berfformwyr o'r radd flaenaf.