
Roedd Gwesty'r Plough yn fan yfed poblogaidd i bobl o'r Rhyl yn yr 1800au hwyr.
Yn ôl Ddeddf Cau ar Y Sul 1881 (Cymru) 1881 yr oedd yr holl dai cyhoeddus i gau ar y Sul oni bai eich bod yn gwneud taith o fwy na 6 milltir. Ystyrid Rhyl i fod yn ddigon pell o Lanelwy i'w gwneud yn gyfreithiol ac felly cyrhaeddai cerbyd 'pedwar mewn llaw' bob nos Sul yn llawn teithwyr sychedig!
Byddai plant lleol yn canu yn Gymraeg (yn eiddgar i gasglu ceiniogau) wrth i gerbydau'r twristiaid ymadael.
Yn ddiweddarach, daeth Gwesty'r Plough yn eiddo i Gymdeithas Tai Lluniaeth y Bobl, sefydliad a anelai at ddelio â'r problemau a achosid gan alcohol a goryfed trwy cynlluniau ymarferol yn hytrach na gwaharddiad. Cymerai clerigwyr hefyd ran mewn rheoli tafarndai nad oedd yn cael gwneud elw o'r alcohol.