Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Stanley

Stanley

Ganwyd John Rowlands (neu Henry Morton Stanley yn ddiweddarach) ym 1841 yn Ninbych. Roedd ei fam Elizabeth Parry yn 18 mlwydd oed ar y pryd. Ni ddaeth Stanley byth i wybod pwy oedd ei dad, a fu farw o fewn ychydig wythnosau i'w enedigaeth.

Cafodd Stanley ei fagu gan daid ei fam, sef Moses Parry, a fu farw pan oedd John ond 5 mlwydd oed. Cafodd ei anfon i Dloty Undeb Llanelwy ac roedd bywyd yn galed iawn yno.

Dihangodd Rowlands o'r tloty ac yn 18 mlwydd oed ymfudodd i'r America, ble y dywedir iddo gyfarfod â masnachwr cyfoethog o'r enw Henry Hope Stanley a ddaeth yn noddwr iddo a mabwysiadodd John ei enw. Serch hynny, cred eraill na chyfarfu John Rowlands â Henry Hope Stanley erioed ac mai groser cyffredin o'r enw James Speake oedd ei wir noddwr.

Wedi ymladd yn Rhyfel Cartref America, daeth Stanley yn newyddiadurwr ac fe gafodd cyfnod yng ngharchar am drefnu daith trychinebus. Ond yna fe ddechreuodd ar y daith enwog i Affrica ble y cyfarfu â Livingston ac yngan y geiriau enwog "Dr.Livingstone, I presume".

Cafodd y tloty yn Llanelwy ei droi yn ysbyty yn dwyn ei enw ond mae hi bellach wedi cau a'r ardal o'i chwmpas wedi'i datblygu ar gyfer adeiladu tai. Mae'r gofgolofn ar gornel Stryd Isaf a Heol Fawr yn parhau hyd heddiw ymysg trigolion Llanelwy yr un mor ddadleuol â hanes bywyd H.M. Stanley.