Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Dylan Thomas

Yn ystod Awst 1953, bu Dylan Thomas yn darllen o'i waith 'The Trip' yn Llyfrgell y Deon a hynny ddim ond tri mis cyn ei farwolaeth.

Ganwyd Dylan Thomas yn 1914 a gadawodd yr ysgol yn 16 mlwydd oed i ddod yn ohebydd ac awdur. Cafodd ei gerdd enwocaf, "Do not go gentle into that good night," ei chyhoeddi yn 1952 a rai o'i weithiau enwog eraill yw'r ddrama Under Milk Wood (1954) a Nadolig Plentyn yng Nghymru (1955). Bu farw Dylan Thomas yn 39 mlwydd oed yn 1953 yn ninas Efrog Newydd.