
Mae hi'n fwy na thebyg mai tŷ Old China yw'r tŷ hynaf yn Llanelwy ac mae'n dyddio'n ôl i 1560.
Mae'n bosib fod y tŷ yn gysylltiedig ag Eglwys y Plwyf gan fod twll offeiriad, sef lle diogel i offeiriaid Catholig guddio i osgoi erledigaeth yn ystod y 17eg a'r 18fed ganrif, yn rhan o'r tŷ. Darganfuwyd darnau o grochenwaith a phibellau chlai yma hefyd.