Mae'r coetir cymysg o dderw, yw, ffawydd a sycamorwydd yn llawn bywyd gwyllt.
Archwiliodd disgyblion o Ysgol Bro Cinmeirch y coetir a thynnu lluniau peth o'r bywyd gwyllt yr oeddent wedi'i weld.
Mae eirlysiau yn nodi dyfodiad y gwanwyn, ac yna daw llygaid Ebrill a blodau'r gwynt yn fuan wedyn. Mae drywod swnllyd yn nythu yn haen y llwyni tra'n uchel yn y canopi gallwch glywed titw glas, titw mawr, y ji-binc a'r dryw eurben bach.
Yn yr haf wrth i'r canopi gau drosodd, rhedyn tafod yr hydd a llenni o eiddew sy'n mynnu sylw.






















