Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gorffennol Cynhanesyddol

Gorffennol Cynhanesyddol

Datgelodd gwaith archeolegol cyffrous yn 2019 fod hanes y safle yn mynd yn ôl ymhellach o lawer na Sant Dyfnog.

Darganfu gwirfoddolwyr weddillion chwarel Neolithig yn dyddio'n ôl tua 6,000 o flynyddoedd.

Darganfuodd y ffermwyr cyntaf hyn fand o gornfaen, math o garreg, uwchben y ffynnon y gwnaethant ei gloddio gan ddefnyddio techneg o'r enw cynnau tân. Mae'r broses hon yn golygu cynnau tân yn erbyn wyneb y graig a'i chynhesu cyn arllwys dŵr oer arni i beri iddi gracio. Defnyddid ceibiau a wnaed o gyrn carw i dorri rhan o’r graig Yna gweithiwyd y cornfaen i gynhyrchu offer carreg at ddefnydd bob dydd.