Mae'r fynwent yn darparu lleoliad tawel i'r eglwys ac mae'n llawn nodweddion hynod ddiddorol.
Ger y ffordd mae coes croes ganoloesol lle dywedir bod cyhoeddiadau wedi'u gwneud yn y gorffennol.
Mae ochrau'r porth yn llawer hŷn na'r to a chredir mai'r hen groglen ydyn nhw.
Un bedd nodedig yw bedd Ann Parry, un o sylfaenwyr yr achos Methodistaidd yn Prion a dynes ddefosiynol iawn. Bu farw Ann ym 1787 a synnwyd y pentrefwyr pan agorwyd ei bedd i gladdu ei mab wrth ei hymyl ym 1830 bod ei chorff mewn cyflwr da.
Claddwyd yma hefyd Edward Jones, bardd a ysgrifennodd lawer o emynau. Fe'i ganed yn Prion ym 1761 ac fel mab i ffermwr ychydig o addysg ffurfiol a gafodd ond roedd ganddo ddiddordeb mewn barddoniaeth bob amser. Daeth yn ysgol feistr ac argraffwyd ei gasgliad cyntaf o emynau yn Ninbych ym 1810.


