Ganwyd Sant Dyfnog tua 570 OC.
Dywedir i Sant Dyfnog wneud penyd trwy sefyll o dan y cenllif, un o'r ffynhonnau mwyaf pwerus ym Nyffryn Clwyd, mewn crys rhawn, wedi'i wregysu â chadwyn haearn.
Roedd hyn wedi rhoi pwerau iacháu gwyrthiol i'r dŵr ac mae pererinion wedi cael eu denu i'r ffynnon byth ers hynny, yn gobeithio am iachâd i'r clafr a'r cosi ac hefyd cryd cymalau a'r frech wen.
Diwrnod gwledd Sant Dyfnog yw 13eg Chwefror ac fe'i cofnodir ar lawer o galendrau eglwysig canoloesol. Dywedir mai ef oedd gwenynwr Dewi Sant.