Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Datblygu'r Llwybr

Gweithiodd disgyblion Ysgol Nannerch ochr yn ochr â'r gymuned i ddatblygu'r llwybr digidol.

Dechreuodd y prosiect gyda noson agored yn yr ysgol i gyflwyno'r prosiect. Roedd nifer dda yn bresennol ac fe ddaeth llawer o bobl leol yn ôl i'r sesiwn Casglu Atgofion i rannu eu straeon a'u lluniau. Roedd y plant yn mwynhau cyfweld pobl yn arbennig.

Ymwelodd disgyblion o'r Cyfnod Sylfaen â'r Eglwys, edrychodd Bl 3 a 4 ar Orsaf Nannerch a'r Hen Felin tra edrychodd Bl 5 a 6 ar y pentref yn gyffredinol. Cerddodd yr holl ddisgyblion iau i fyny Penycloddiau a chynhyrchu gwaith celf a cherddi hyfryd.

Diolch yn arbennig i Cliff Halsall, Brian Bennett, Liz Stack, Simon Ellis a phawb sydd wedi bod mor hael gyda'u hamser, eu lluniau a'u straeon.

Mae'r lluniau a ddefnyddiwyd yn Ffordd y Pentref 1910 a 1960 a Pen y felin 1937 a 2000 o lyfr Brian Bennett "A Pictorial History of Nannerch", sydd ar gael o The Bookshop neu Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug am £5.

Ewch i wefan Ysgol Nannerch

Gweler ein tudalen Twitter ysgol