Codwyd y Gofeb Ryfel tua 1930.
O'r 65 o ddynion a merched ifanc a alwyd i fyny o blwyf Nannerch i wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, lladdwyd 2 ohonynt ar faes y gad.
Lladdwyd Is-gapten W D Buddicom, 4ydd Hussars, ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Derbyniodd y Groes Filwrol am ddewrder ac ymroddiad i ddyletswydd yn ystod ymosodiad gan y gelyn. Casglodd ddau wn Lewis, a dynion a oedd wedi colli eu swyddog, a'u harwain ar draws dir agored o dan saethu trwm gwn peiriant.