Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion

Ffurfiwyd Plwyf Nannerch ym 1254

Enw'r eglwys wreiddiol oedd 'Y Capel Gwiel yn y Rhos'.

Dyluniwyd yr eglwys bresennol gan y pensaer T H Wyatt o Lundain ac fe'i hagorwyd ar ddiwrnod Sant Mihangel, 29 Medi, 1853.

Cymerwyd dau gofeb o'r eglwys flaenorol. Mae un yn gofeb drawiadol i Charlotte Mostyn o Benbedw, dyddiedig 1694 a'i phriodoli i'r cerfiwr enwog Grinling Gibbons tra bod y llall i Mr. Watkin Williams a wasanaethodd fel AS lleol o 1777 hyd 1806. Hefyd o'r eglwys honno mae'r canhwyllyr dwy haen hardd, rhodd gan Elizabeth Williams yn 1820. Credir bod y darian wydr yn y ffenestr ger y ddarllenfa yn dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif fel y mae 2 ffenestr ger drws y festri fewnol.

Mae nifer o blaciau drwy'r eglwys yn coffáu aelodau o'r teulu Buddicom a oedd yn dirfeddianwyr lleol ac yn gymwynaswyr. Ger y drws mae plac er cof am Septimus Robinson a laddwyd yn Bloemfontein yn 1900 yn Rhyfel y Boer.