Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Neuadd Bentref Nannerch

Adeiladwyd y Neuadd Goffa yn 1935 gan y teulu Buddicom.

Venetia Buddicom a'i mam gafodd adeiladu'r lle er cof am dad Venetia, Harry, a'i brawd Walter a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe'i defnyddiwyd fel ystafell ddosbarth dros dro ar gyfer plant a symudwyd o Lerpwl.

Heddiw mae'n lleoliad poblogaidd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau pentrefol ac yn gartref i nifer o grwpiau gan gynnwys Chwaraewyr Nannerch.