Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ysgol Nannerch Heddiw

Gwrando

Mae Ysgol Nannerch yn parhau i fod yn ysgol gyfeillgar, gymunedol yng nghanol y pentref.

Ar gyfartaledd, mae 60 o ddisgyblion ar rôl gyda thri dosbarth, un cyfnod sylfaen a dau ddosbarth iau.
Rydym yn dilyn Cwricwlwm Cymru gyda llythrennedd a rhifedd wedi'u hymgorffori ar draws pob maes pwnc. Mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn sicrhau defnydd creadigol disgyblion o TG ac yn sicrhau diogelwch ar-lein. Mae ein tiroedd hardd, helaeth yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon ac ysgol goedwig.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a'n blogiau wythnosol