
Simnai y boeler ar Magazine Lane 
Gellir gweld simnai y boeler yn y coed yn unig
Drifft Hopwood yw'r enw llafar am y pwll glo olaf i gael ei sefydlu yn ardal Northop Hall.
Ei enw swyddogol oedd Glofa Park Hill ac fe'i sefydlwyd gan John Hopwood a'i feibion Thomas a Richard. Yn ystod misoedd hir Streic Glo 1926, roedd Castle Firebrick Co Ltd angen tanwydd ar gyfer eu odynau ac roeddent wedi gweithio gwythïen o lo yn 'Foreign Parts'. Gellir gweld olion y pwll gwreiddiol hwn wedi'i ffensio o hyd mewn cae rhwng Lôn Robin Hood a Gwesty Gwledig Northop Hall.
Dyma oedd safle'r fenter newydd ond, oherwydd yr anawsterau wrth echdynnu'r glo, aeth yr Hopwoods ati i osod drifft dri chan llath i'r de, yn agos at Magazine Lane. Yn ystod ei anterth, roedd y pwll yn cynhyrchu tua 2,500 tunnell o lo y flwyddyn ac yn darparu cyflogaeth i weithlu o ddeg.
Ym 1947 cafodd y Diwydiant Glo ei wladoli ac er mor fach oedd Glofa Park Hill, cafodd ei gynnwys ond ei roi yn ôl i'r ddau frawd i gael ei weithio o dan drwydded a dod yn un o'r unedau NCB lleiaf yn y wlad.
Roedd y pwll yn gweithredu tan yr 11eg Tachwedd 1949, ac erbyn hynny roedd y rhan fwyaf o'r glo wedi'i weithio allan.
Un crair arwyddocaol yw'r corn simnai yn y coed bach ar Magazine Lane. Hwn oedd y simnai i'r boeler codi stêm i bwmpio 200 galwyn o ddŵr y funud o'r gweithfeydd i mewn i Nant Ewloe gerllaw. Mae'r pwmp yn dal yn ei le ar ôl cael ei adael lawr y pwll glo pan gaeodd ac mae'n debyg mai'r corn yw'r simnai lofa olaf yn yr ardal.