
Original Cae Eithin Farm 
Cae Eithin
Gyferbyn â Llys Ben, mae'r tŷ hwn a adeiladwyd yn y 1990au, yn sefyll ble roedd Fferm Cae Eithin yn wreiddiol.
Yn flaenorol, enw'r Fferm oedd Irish Colliery House lle roedd Maurice Searey goruchwyliwr y pyllau glo yn byw. Yn ddiweddar, bu'r teulu Cottrell yn byw yn Cae Eithin am nifer o flynyddoedd a than y 1970au gallai pentrefwyr alw yn y fferm i brynu llaeth ffres gan Sally Cottrell. Gwerthodd ei brawd, Benny Cottrell, y caeau ar draws y ffordd i'r fferm i'w godi tai. Cymerodd Llys Ben ei enw. Mae llawer o bentrefwyr yn dal i gofio Benny yn danfon llaeth ar ei geffyl a'i gert, gan dywallt y llaeth i mewn i jygiau pentrefwyr. Mewn blynyddoedd diweddarach mae rhai'n cofio eu hamser ar y rownd laeth yn eistedd yng nghefn fan Morris Minor werdd Benny, coesau'n hongian allan o gefn y fan, yn trysori eu cyflog 3d ac yn mwynhau cig moch ac ŵy yn y gegin ar ôl gwneud eu rownd. Byddai'r cig moch yn cael ei dorri o'r darn mochyn a oedd wedi'i lapio mewn mwslin a'i hongian o'r trawst yn y gegin. Cafodd Cae Eithin ei ddymchwel yn y 1990au ac adeiladwyd Cae Eithin newydd yn ei le.
Mae Llys Ben yn arwain at Ysgol Gynradd y pentref a'r Pafiliwn sy'n ganolfan ar gyfer grwpiau cymdeithasol a chyfarfodydd. Gosododd deulu'r Cottrell gyfamod ar y tir o amgylch y Pafiliwn i atal unrhyw ddatblygiad tai pellach rhag digwydd ac iddo gael ei gadw fel caeau chwarae at ddefnydd y pentrefwyr.
Oddi ar y caeau chwarae y tu ôl i Gardd Eithin mae darn o dir o'r enw Y Gorsey. Mae pentrefwyr yn gweithio'n galed i sicrhau statws Maes Pentref ar gyfer y tir hwn.
Mae Cae Eithin bron yn sicr yn enw gwreiddiol y fferm. Ni fyddai’r Gymraeg wedi cael ei siarad yn eang yn yr ardal hon ar ôl 1750, hwn oedd cyfnod cynnar y Chwyldro Diwydiannol ac roedd yn nodi symudiad gweithwyr i ardal Sir y Fflint o’r dwyrain a’r gorllewin. Byddai'r ardal hon, oherwydd ei hagosrwydd at y ffin, wedi denu gweithwyr Saesneg eu hiaith yn bennaf (ee Dim capeli Cymraeg yn y pentref). Mae'r enw 'Irish Colliery House' yn cydfynd â'r cyfnod hwnnw o hanes, tua 1800, pan oedd y mentrau mwyngloddio glo yn rhannol 'dan berchnogaeth' Gwyddelig. Mae'r tŷ yn sefyll wrth ymyl rhai o'r pyllau mwyngloddio cynharach, gyda siafftiau Dublin a Rowley yn agos. Mewn gwirionedd gelwir y cae i'r de, sydd bellach yn rhan o ddatblygiad tai Plas yr Arwr, yn 'Cae Eithin' ar fap Degwm 1836 ac mae'r holl gaeau o gwmpas wedi'u henwi yn Gymraeg. Derbynnir felly mai'r Gymraeg oedd yr iaith yn y cyfnod cyn bod pentref Northop Hall yn bodoli, gan ei bod yn ardal wledig ei chymeriad gyda ffermydd a thyddynnod. Felly mae gennym o bosibl ffermydd hwyr / ôl-ganoloesol fel Cae Eithin, Bryn Gwyn, Cae Llys, Galchog, Pentremoch, Colomendy, Llwyni. Mae'n bosibl y gallai rhai o'r ffermydd ag enwau Saesneg, Wellfield, Brookside, White House, Boar's Head ac ati fod ag enwau Cymraeg yn wreiddiol os oeddynt yn mynd yn ôl yn ddigon pell. Mae Eithin neu Gorse yn gyffredin yn Northop Hall. Gellir tybio y gallai fod wedi'i gysylltu â'r ffaith bod mesurau glo a/neu lwch glo yn agos at neu ar wyneb y tir, gan fod eithin yn ffynnu yn yr amodau hyn, yn ôl pob tebyg. Mae'r warchodfa natur a grëwyd i'r de o'r datblygiad tai, wedi blaguro ag eithin wrth i'r hadau amlhau yn y llwch glo gafodd ei drawsleoli o ardal gyfagos.